Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2022

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 4:

Rydym yn cadarnhau bod y cwestiwn ynghylch a ddylid cydgrynhoi’r prif Reoliadau yn parhau i gael ei adolygu. Bydd y Pwyllgor yn gwerthfawrogi’r angen i daro cydbwysedd yn hyn o beth rhwng yr amser a’r adnodd sy’n ofynnol i gynhyrchu rheoliadau wedi eu cydgrynhoi a’r angen i wneud rheoliadau yn gyflym i ymateb i amgylchiadau sy’n newid, neu i sicrhau bod y prif Reoliadau yn parhau i fod yn gymesur. Ac fel y mae’r Pwyllgor yn ei nodi, rydym yn ceisio hwyluso hygyrchedd drwy gyhoeddi fersiwn wedi ei chydgrynhoi o’r prif Reoliadau yn ddwyieithog ar https://llyw.cymru/rheoliadau-diogelu-iechyd-cyfyngiadau-coronafeirws-rhif-5-cymru-2020-fel-yu-diwygiwyd, fel arfer o fewn ychydig oriau ar ôl gwneud rheoliadau newydd.

Rydym yn ddiolchgar i’r Pwyllgor am ei awgrym y gallai’r deunydd esboniadol i reoliadau diwygio gynnwys esboniadau ychwanegol er mwyn hwyluso hygyrchedd y prif Reoliadau. Mae’r cynigion yn ddefnyddiol iawn a byddwn yn ystyried eu cynnwys, a dolen i’r fersiwn wedi ei chydgrynhoi yr ydym yn ei chyhoeddi, yn y deunydd esboniadol i unrhyw reoliadau diwygio yn y dyfodol.